Gonest
- Rydym yn onest, yn agored ac yn deg wrth ddelio â phobl ac ein partneriaid
- Rydym yn parchu cyfrinachedd a’r angen i amddiffyn data sensitif
- Rydym ni am i bobl fod yn ymwybodol o’r penderfyniadau rydyn ni’n eu cymryd, ac am iddynt eu deall, ac rydym yn atebol am ein gweithredoedd
- Rydym yn cyflawni hyn trwy hysbysu ein rhanddeiliaid yn gyson, yn rheolaidd ac yn llawn
Galluogi
- Mae ein gwasanaethau yn grymuso ein tenantiaid i fedru cynnal eu tenantiaethau, a helpu eu cymunedau i ddatblygu a thyfu
- Rydym yn anelu i alluogi ein staff i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallan nhw ac i dyfu a datblygu eu gyrfaoedd
- Rydym yn anelu i alluogi ein rhanddeiliaid i ddarparu eu huchelgeisiau
Arloesol
- Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn
- Rydym yn addasu ac yn ymateb yn gyflym, ac yn cymryd pob cyfle i ddysgu o brofiad
- Rydym yn ymddiried yn ein staff ac yn annog syniadau newydd, gan alluogi staff i geisio gwella gwasanaethau
Caredig
- Rydym yn sylwi pan mae pobl yn dioddef ac yn cymryd camau i helpu
- Rydym eisiau helpu ein gilydd, tenantiaid a chymunedau
- Rydym yn gwrando ar beth sydd gan bawb i’w ddweud
- Rydym yn garedig
Ffocws ar bobl
- Rydym yn cydnabod ac yn canmol perfformiad da
- Rydym yn ymgysylltu â, gwrando ar ac yn dysgu wrth staff, tenantiaid a rhanddeiliaid
- Rydym yn cofleidio amrywiaeth a chynhwysiant