Twf
- Ychwanegu 600 o dai ar rent cymdeithasol
- Ystyried darpariaeth rhaglen grant effeithiol ar gyfer tai nad ydynt yn gymdeithasol, a strategaeth gyllido fydd yn cefnogi’r uchelgeisiau datblygu
- Sicrhau fod gennym ni ddigon o staff gyda’r sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau cywir
- Darparu uchelgeisiau ein Cynllun Corfforaethol
Cynaliadwyeddd
- Cadw bwlch wrth gefn o o leiaf 20% yn erbyn y cyfamod sicrwydd llog tynnaf
- Cadw bwlch wrth gefn o o leiaf 5% yn erbyn y cyfamod gerio tynnaf
- Cyllido ar gyfer 30% o warged gweithredu ar y gosodiad cyllido blynyddol
- Cyhoeddi adroddiad sy’n arddangos ein effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu
- Sicrhau y bydd pob cartef a adeiledir o'r newydd yn garbon niwtral ac y bydd 30% o gartrefi Newydd sy’n bodoli’n barod yn garbon niwtral
- Dros 95% o denantiaethau yn para mwy na 3 blynedd i leihau methiant tenantiaeth
- Dros 90% o denantiaid yn fodlon gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw
Diogelwch
- Dim eiddo ag unrhyw faterion cydymffurfiaeth i’w datrys
- 99% o waith trwsio brys wedi’i gwblhau ar amser
- 98% o waith atgyweirio wedi’i gwblhau yn iawn y tro cyntaf
- Heb gael unrhyw achosion adroddadwy
- Wedi cwblhau’r holl hyfforddiant diweddaru Iechyd a Diogelwch blynyddol
- Heb gael unrhyw dor diogelwch data
- Heb golli unrhyw ddata tenantiaid na staff o ganlyniad i ymosodiadau seiber
- Heb gael unrhyw ddigwyddiadau yn arwain at gyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol
- Heb gael unrhyw dorriadau o reoliadau ariannol na rheolau sefydlog
Cefnogaeth
- Sicrhau boddhad o dros 90% gyda thenantiaid sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi a gwasanaethau byw’n annibynnol
- Sicrhau boddhad o dros 90% gyda staff rheng flaen ar gyfer y gwasanaethau cefnogi oddi wrth Cyllid, Marchnata, Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol
- Sicrhau bod Grŵp Newydd yn cael gwobr aur Buddsoddwyr Mewn Pobl
- Sicrhau bod Grŵp Newydd yn cael canlyniad 3* Cwmniau Gorau
- Cynnal adolygiad strategol o ddarpariaeth cefnogi tenantiaeth
- Llwyr weithredu diwylliant Dulliau Adferol ledled y sefydliad
Gwasanaethau Rhagorol
- Cyrraedd boddhad cyffredinol o dros 90%, gyda 60% yn “Fodlon Iawn”
- Cynnal boddhad uchel mewn perthynas â’r tri awdurdod lleol sy’n bartneriaid allweddol i Newydd
- Cyrraedd statws rheoleiddiol “Gwyrdd” mewn Llywodraethu a Hyfywedd Ariannol
- Cynnal adolygiad strategol er mwyn gwella ein dulliau ymgysylltu tenantiaid
- Cyrraedd boddhad o dros 80% o ran “Pa mor fodlon ydych chi bod Newydd yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arno?”
- Cael gwobr Tai Pawb QED am gydraddoldeb ac amrywiaeth
- Dod yn fwy cynrychioliadol ar lefel Bwrdd a staff