Mae ein heiddo yn fwy na waliau a ffenestri yn unig, maent yn gartrefi, ac rydym yn gwneud yn siŵr bod pob cartref newydd a adeiladwn yn ddeniadol, yn eang, yn hygyrch ac yn effeithlon o ran ynni.
- Rydym eisiau cefnogi ein cymunedau i dyfu mewn amgylchedd cynaliadwy a diogel
- Rydym eisiau bod yn gymdeithas dai sydd ymysg y perfformwyr gorau, lle mae’r staff eisiau gweithio i helpu adeiladu cymunedau cynaliadwy a dyfodol gyda sicrwydd ariannol
- Rydym eisiau cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn “Rhaglen Lywodraethu 2021–2026” a’r Datganiad Llesiant cysylltiedig
- Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 ac rydym yn datblygu cynlluniau i gyflawni hyn
- Rydym eisiau darparu tai diogel ar gyfer pobl ddigartref, a chyfrannu tuag at ddatblygiad a gweithrediad ein partneriaid yn ein hawdurdodau lleol gyda’u strategaethau yn ymwneud â digartrefedd
- Rydym eisiau cefnogi ein tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau a sicrhau bod ein rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy
- Rydym eisiau cadw ein tenantiaid yn ddiogel a’n heiddo wedi eu cynnal a’u cadw i safon uchel
- Rydym eisiau helpu ein cymunedau i adfer o’r pandemig COVID-19
- Rydym eisiau darparu gwasanaethau rhagorol sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o ddiwylliannau o fewn ein cymunedau
- Rydym eisiau cefnogi ein partneriaid rhanddeiliaid lleol i gyflawni eu huchelgeisiau: Amcanion Cyngor Bro Morgannwg a gyhoeddwyd yn “Gweithio Gyda’n Gilydd am Ddyfodol Disgleiriach: Y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020–2025” Amcanion CBS Rhondda Cynon Taf yn “Gwneud Gwahaniaeth – Cynllun Corfforaethol 2020–2024” Amcanion Cyngor Sir Powys yn “Powys 2025”